Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM

Meddal
- meddalwedd Cymraeg

24/04/2007 GMT 1

Nireblog

rhos @ 19:27

Dyma Nireblog - gwasanaeth blog am ddim ac yn y Gymraeg. Does dim esgus nawr rhag annerch y byd i gyd...

Y peth da yw bod gwirydd sillafu Cymraeg Firefox a CySill yn gweithio o fewn y rhaglen. Rhaid gwneud yn siŵr fod y nodwedd Bysell Boeth (sic) yn gweithio o fewn CySill yn gyntaf a bod pecyn gwirydd Cymraeg wedi ei osod o fewn Firefox. Dim esgus am gamsillafu na chamdreiglo nawr... ;-)

Diolch i Rhys Wynne am dynnu fy sylw at Nireblog ac am ei waith.

Sylwadau

Sylwadau(3) »

  1. Mond arbrofi gyda sylwadau. Dwi'n sylwi bod yna broblem gyda'r tagiau ar dy flog di fel un fi. Mae wedi dewis geiriau ar hap o dy gofnod.

    Rhys | 2007-04-25 - 11:12:23 GMT 1 #

  2. Mae angen i'r algorithm sy'n dewis tagiau gwybod rywfaint am y Gymraeg.

    Gynted mae systemau fel hyn yn ceisio gwneud rhywbeth clyfar gyda geiriau/testunau i hwyluso'i ddefnydd yn Saesneg, mae'n achosi problemau a diffygion yn ei ddefnydd Cymraeg.

    Dewi | 2007-05-01 - 11:26:04 GMT 1 #

  3. Newydd weld y sylw yma. Dwi ddim yn dallt lot am algorithim (ok, sdim syniad beth ydi o), ond y blogiwr ei hun sydd fod i ddewis y tagiau, nid y sustem ei hun.

    Rhys | 2007-05-09 - 09:41:33 GMT 1 #

Ymateb:


<a href> <em> <blockquote> <strong> <cite> <code> <ul> <li> <dl> <dt> <dd>

Archif | Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM